Access key links:

This site uses cookies to help make it more useful and reliable. Our cookies page explains what they are, which ones we use, and how you can manage or remove them.

Ein gwaith


Mae BIS yn dod â phopeth sy’n ysgogi’r economi at ei gilydd mewn un lle. Mae’n meysydd polisi ni - o sgiliau ac addysg uwch i arloesi a gwyddoniaeth i fusnes a masnach - i gyd yn gallu helpu i ysgogi twf.

Dyma drosolwg o’n meysydd polisi – cliciwch ar y dolenni i gael rhagor o wybodaeth.

Rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin marchnadoedd cystadleuol trwy sicrhau fframwaith priodol o ran y gyfraith fusnes, gan alluogi cwmnïau i gystadlu’n rhydd a chan roi dewis a gwerth i ddefnyddwyr.

Dylai defnyddwyr gael eu trin yn deg, deall eu hawliau a bod mewn sefyllfa i’w defnyddio nhw’n effeithiol, a dylai’r gyfraith defnyddwyr fod yn deg i ddefnyddwyr a busnesau fel ei gilydd.

Rydyn ni’n credu bod cyflogaeth yn bwysig ac yn gweithio i hyrwyddo arferion da a chysylltiadau effeithiol o ran cyflogaeth.

Trwy gymorth menter a busnes rydyn ni’n cryfhau’r amgylchedd busnes ar gyfer busnesau bach ac yn galluogi rhagor o bobl a chymunedau i sefydlu busnesau.

Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu diwydiannau Prydain i wella’u cynhyrchiant ac i feithrin natur gystadleuol o safon ryngwladol trwy gefnogi ein sectorau busnes strategol bwysig.

Gwlad fasnachol yw Prydain, ac rydyn ni’n helpu cwmnïau’r Deyrnas Unedig i fasnachu gyda gwledydd eraill mewn tri maes sy’n allweddol i gwmnïau sy’n masnachu ac yn allforio nwyddau’n rhyngwladol: Ewrop, masnach a rheoli allforion

Mae’r Weithrediaeth Rheoleiddio Gwell yn arwain y gwaith diwygio ar draws y llywodraeth gyda’r bwriad o leihau’r baich gweinyddol sydd ar fusnesau.

Rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin addysg uwch o safon ryngwladol er mwyn sicrhau bod gan y wlad y sgiliau lefel-uchel y mae eu hangen i lwyddo’n economaidd, gan sicrhau rhagoriaeth hefyd mewn addysg ac ymchwil.

Rydyn ni wrthi’n creu sector addysg bellach ymatebol o ansawdd uchel sy’n rhoi’r sgiliau sy’n angenrheidiol mewn economi modern a byd-eang i’r gweithwyr. Bydd hyn yn cryfhau perfformiad economaidd ac yn gwella cyfleoedd bywyd ein pobl.

Rydyn ni’n ceisio sicrhau rhagoriaeth fyd-eang mewn gwyddoniaeth ac ymchwil i’n helpu i gynnal ffyniant economaidd a mynd i’r afael â’r heriau allweddol sy’n ein hwynebu yn fyd-eang a gartref, megis newid yn yr hinsawdd a diogelwch.

Mae arloesi yn ein helpu i wynebu heriau cymhleth ac yn sbarduno twf trwy wella cynhyrchiant ac ymchwilio a datblygu. BIS sy’n arwain agenda arloesi ac rydyn ni’n cymryd camau i hybu arloesi yn yr economi ac ar draws y sector cyhoeddus.

Ein nod yw helpu pob un o ranbarthau Lloegr i gynyddu datblygiad economaidd rhanbarthol cynaliadwy a chau’r bwlch rhwng cyfraddau twf y gwahanol ranbarthau.

Y sefydliadau partner

Mae amrywiaeth eang o sefydliadau yn helpu BIS i gyflawni ei blaenoriaethau strategol. Mae’n rhwydwaith o sefydliadau partner yn rhoi gwasanaethau, gwybodaeth a chyngor i’r Adran ac yn uniongyrchol i amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau.

 

Other useful websites


 

Sign up for email alerts and newsletters